r/cymru • u/Former-Variation-441 • 1d ago
r/cymru • u/UnlikelyOwls • 2d ago
Gorsafoedd: gêm enwi gorsafoedd trenau Cymru
Mae gan fy ngwraig obsesiwn gyda threnau felly rwy di creu gêm enwi gorsafoedd trenau Cymru. Efallai y bydd o ddiddordeb i rai ohonoch! Hapus i gymryd adborth i'w wella ac i gywiro unrhyw wallau.
r/cymru • u/topherette • 3d ago
Pa enwau bachau rydych chi wedi clywed ar gyfer lleoedd yng Nghymru?
r/cymru • u/Confident_Ad9428 • 4d ago
Eisiau siarad gyda teuluoedd pobl sydd yn y carchar
Gwybod bod hwn yn long shot, ond dw i'n ymchwilio i mewn i fethiannau o fewn system gyfiawnder ar hyn o bryd felly yn chwilio i siarad gya phobl sydd efo ffrind neu aelod o'r teulu yn y carchar. Croeso i chi yrru neges breifat os allech chi helpu.
r/cymru • u/Apprehensive-Bed-785 • 4d ago
Ddrwg gen i am y post yn Saenseg ond oes ganddoch chi farn ar hyn?
reddit.comDdim byd difrifol ond rhywbeth roedd gen i awydd siarad/trafod amdano. Fyswn i'n licio clywed barn arall am y peth
r/cymru • u/edaucymru • 6d ago
Rydw i wedi bod yn adeiladu gwefannau sy'n dod â data cyhoeddus Cymru i un lle. Croeso i bob sylw
Mae'n anodd iawn cadw golwg ar fywyd cyhoeddus Cymru. Mae'r rhan fwyaf ohono wedi'i gyhoeddi yn rhywle, ond mae ar wasgar ar draws gwefannau cynghorau, cofnodion y Senedd, StatsCymru a llwyth o PDFs.
Felly dw i wedi bod yn adeiladu gwefannau sy'n darllen y ffynonellau hynny bob nos ac yn eu rhoi mewn un lle, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae wyth hyd yma:
- opensenedd.com/cy: dadleuon, pleidleisiau, cwestiynau a deisebau'r Senedd
- opencouncil.wales/cy: beth mae'r 22 cyngor yn ei drafod a'i benderfynu
- openhealth.wales/cy: amseroedd aros a pherfformiad y GIG, a meddygfeydd
- openeducation.wales/cy: ysgolion a'u hadroddiadau Estyn
- opentransport.wales/cy: trenau, bysiau a ffyrdd
- opennature.wales/cy: afonydd, gollyngiadau carthion a dŵr ymdrochi
- opencharity.wales/cy: elusennau cofrestredig yng Nghymru
- openeconomy.wales: swyddi, cyflogau a busnesau
Mae'n dal yn ddyddiau cynnar, ac rydw i'n siŵr bod camgymeriadau. Hoffwn i wybod beth sy'n ddefnyddiol, beth sydd o'i le a beth sydd ar goll.
r/cymru • u/Markoddyfnaint • 7d ago
'Ddim yn meddwl byddai Cymru yn maeddu y Crysau Duon yn fy oes i'
bbc.co.ukPwy oedd yn disgwl hynny?! Perfformiad gwefreiddiol.
r/cymru • u/BWithersCymraeg • 8d ago
Arolwg Newyddiaduriaeth Chwaraeon
Helo pawb! (Wedi'i gymeradwyo gan y mods)
Ar gyfer fy mhrosiect blwyddyn olaf mewn Newyddiaduriaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol De Cymru, dwi'n ymchwilio i weld a yw cyfryngau chwaraeon Cymraeg yn chwarae rôl fesuradwy wrth gefnogi'r iaith Cymraeg.
Dwi'n chwilio am ymatebion gan bawb - beth bynnag yw eich lefel o Gymraeg! P'un a ydych chi'n siaradwr rhugl, yn dysgu, yn deall ychydig, neu hyd yn oed os nad ydych chi'n gwylio llawer o chwaraeon fel arfer, byddai eich persbectif yn werthfawr iawn i fy data. (Mae'r arolwg ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, felly mae croeso i chi ei rannu gyda ffrindiau neu deulu nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg chwaith!)
Mae'r arolwg yn hollol ddienw ac yn cymryd tua 2-3 munud. Mae'n gofyn am:
- Pa mor aml rydych chi'n dod ar draws neu'n defnyddio cyfryngau chwaraeon Cymraeg.
- P'un a ydych chi'n dewis cyfryngau Cymraeg neu Saesneg (a beth sy'n dylanwadu ar y dewis hwnnw).
- A yw chwaraeon yn y Gymraeg wedi effeithio ar eich hyder, eich dysgu, neu eich defnydd dyddiol o'r iaith.
Dolen i'r arolwg: https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSdSWvvrhLLHzKeLnZiRcIdsKGTrxXk1VKgRjpDsJRMouIfD2A/viewform
Byddwn i'n hynod ddiolchgar i unrhyw un sy'n gallu sbario cwpl o funudau i'w lenwi. Diolch yn fawr iawn!
r/cymru • u/Specialist-Half-930 • 9d ago
Law and Cymraeg Proffesiynol
Roeddwn i'n gobethio i fynd i prif-ysgol Aberystwyrth am Law and Cymraeg Proffesiynol ond mae'r wefan yn ddweud byddaf fi'n angen lefel-a Cymraeg iaith cyntaf. Ond dydw i ddim yn gwneud lefel-a Cymraeg a mae rhai pobl yn ddweud dydw i ddim angen y lefel-a. Ydy unrhyw un yn gwybod?
r/cymru • u/Educational_Curve938 • 11d ago
Gwahardd Joe Martin AS rhag siarad yn y Senedd nes iddo ymddiheuro
bbc.co.ukr/cymru • u/topherette • 11d ago
Is there an informal -s ending for Welsh nouns, or is what I'm seeing the influence of English? Nicknames like Llanduds/Tuds, Llanbabs, Brynrefs or Tregs (Tregaron)
I happen to be studying informal place names like the examples in the OP, so if anyone has some insight, I'd appreciate that!
For examples of the same kind of thing in English: Sheffs, Chelts or even more historical ones like Notts, Lincs etc., although that could be from the 's' in -shire.
There's also the Oxford -er/-ers, which is likely related: https://en.wikipedia.org/wiki/Oxford_%22-er%22
r/cymru • u/writtenforwylan • 13d ago
Y Ddadl Acennau
Rydw i newydd rhoi post ar y server Saesneg, ond roeddwn i'n feddwl bydd hi'n dda yn fan hyn hefyd. Y cwestiwn yw: ydy pobl o'r Gogledd yn casau'r acen Ddeuol hefyd? Rydw i'n iawn (y rhan fwyaf o'r amser) gyda acennau'r gogledd, yn fawr oherwydd bod o gwmpas nhw trwy'r ysgol, ond o'n i'n feddwl os mae'r casineb yn mynd naill ffordd?
(Rydw i ddim yn casau'r holl gogledd, mae rhaid i fi dweud, ond mae acen Jac y Jwc o'r Sali Mali live-action yn dilyn fi fel diafol allen i ddim cael gwared ohoni!)
r/cymru • u/Ill_Principle7959 • 19d ago
Diabetes in Wales – is the NHS ready for the future?
r/cymru • u/Theuntoldshow • 20d ago
🎥 Yn chwilio i gyfweld â haneswyr Cymreig, cyn-lowyr, gweithwyr dociau a phobl leol o Gaerdydd!
reddit.comr/cymru • u/Audit_Wales • 23d ago
Diabetes yng Nghymru – a yw'r GIG yn barod ar gyfer y dyfodol?
Diabetes yw un o'r heriau iechyd hirdymor mwyaf sy'n wynebu GIG Cymru. Mae mwy o bobl yn byw gyda'r cyflwr, mae costau'n codi, ac mae gwasanaethau o dan bwysau cynyddol. Yn ogystal â helpu pobl â diabetes, mae angen i'r GIG atal mwy o bobl rhag ei ddatblygu yn y dyfodol.
Rydym yn cynllunio dau adolygiad o ddiabetes ar draws GIG Cymru yn ystod 2026 a 2027. Mae'r erthygl hon yn esbonio pam rydym yn edrych ar ddiabetes a materion y bydd ein gwaith yn eu harchwilio.
Beth fyddwn ni'n edrych arno
Bydd ein gwaith yn edrych yn fanylach ar ba mor dda y mae GIG Cymru yn atal diabetes, cefnogi pobl sy'n byw gyda'r cyflwr, a darparu gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Byddwn yn ystyried y materion y mae byrddau iechyd yn eu hwynebu wrth ddarparu gwasanaethau diabetes, a'r camau y maent yn eu cymryd i'w goresgyn.
Bydd y cyntaf o'n hadolygiadau yn canolbwyntio ar reoli diabetes. Rydym yn disgwyl cyhoeddi canfyddiadau yng Ngwanwyn 2027, i ddechrau trwy adroddiadau ar gyfer pob bwrdd iechyd.
Bydd yr ail adolygiad yn canolbwyntio ar atal y rhai sydd mewn perygl rhag datblygu diabetes. Bydd y gwaith hwn yn dechrau ddiwedd 2027.
Ar draws y ddau adolygiad, rydym am dynnu sylw at yr hyn sy'n gweithio'n dda a lle gallai gwasanaethau wella. Rydym am i'n gwaith helpu byrddau iechyd i wella gofal diabetes, fel y gall pobl â diabetes fyw bywydau iachach a mwy annibynnol.
Rydym hefyd eisiau sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n dda i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl i gleifion.
r/cymru • u/WelshGovNews • 24d ago
Mae Llywodraeth Cymru newydd cyhoeddi taliad costau byw o £100 i bob aelwyd ym mandiau treth cyngor A i D
Mae Llywodraeth Cymru newydd cyhoeddi taliad costau byw o £100 i bob aelwyd ym mandiau treth cyngor A i D.
Rydyn ni’n gwybod fod pwysau costau byw yn peri pryder dwys i lawer gormod o bobl. Dyna pam fod y Cabinet wedi bod yn trafod sut orau i gefnogi aelwydydd drwy’r cyfnod anodd hwn. Nawr fod Llywodraeth y DU wedi ymateb yn gadarnhaol i alwadau Llywodraeth Cymru i ddarparu’r cyllid i wneud hyn yn bosib, rwy’n falch o gyhoeddi y byddwn yn rhoi taliad costau byw o £100 i bob aelwyd ym mandiau treth cyngor A i D.
Mwy o wybodaeth am y taliad i ddod.
